Psalms 29

Llais yr Arglwydd yn y storm

Salm Dafydd.

1Dewch angylion! Cyhoeddwch!
Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r Arglwydd!
2Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!
Plygwch i addoli'r Arglwydd
sydd mor hardd yn ei gysegr.
3Mae llais yr Arglwydd i'w glywed uwchben y dŵr –
sŵn y Duw gwych yn taranu.
Mae'r Arglwydd yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.
4Mae llais yr Arglwydd yn rymus.
Mae llais yr Arglwydd yn urddasol.
5Mae llais yr Arglwydd yn dryllio'r cedrwydd;
mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus.
6Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo;
a Sirion
29:6 Sirion Yr enw Phoenicaidd ar fynydd Hermon – gw. Deuteronomium 3:9
fel ych gwyllt ifanc.
7Mae llais yr Arglwydd fel mellt yn fflachio.
8Mae llais yr Arglwydd yn ysgwyd yr anialwch;
mae'r Arglwydd yn ysgwyd anialwch Cadesh.
9Mae llais yr Arglwydd yn plygu'r coed mawrion,
ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd.
Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi “Rwyt ti'n wych!”
10Mae'r Arglwydd ar ei orsedd uwchben y llifogydd.
29:10 llifogydd symbol o'r anhrefn sy'n bygwth y byd.

Mae'r Arglwydd yn Frenin ar ei orsedd am byth.
11Mae'r Arglwydd yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae'r Arglwydd yn rhoi heddwch i'w bobl.
Copyright information for CYM